"Yng Nghymru daeth etifeddiaeth o oresgyn llwyr â'i phroblemau'i hun, yn benodol dig a oedd, yn hinsawdd economaidd ansefydlog diwedd y 14eg ganrif, wedi'i ganoli ar y bwrdeisdrefi Seisnig ac wedi ei gyfeirio tuag at swyddogion yr Eglwys a'r ladwriaeth a ddeuai yn bennaf o siroedd Seisnig y gororau neu o ymhellach draw. O 1400 ymlaen fe sianelwyd y dig hwn i rthryfel Owain Glyndwr, ac yn dilyn y profiad annifyr hwnnw fe ystyriwyd Cymru gydag amheuaeth ac ofn gan y mwyafrif o Saeson."